Mae un o bencampwyr Olympaidd Cymru wedi galw am gadw’r cylchoedd Olympaidd yng Nghaerdydd er mwyn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd y cylchoedd £300,000 a gafodd eu gosod o flaen Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd yn cael eu symud ar ôl diwedd y gemau.

Fe fyddwn nhw’n cael eu disodli’r wythnos nesaf gan agitos y Gemau Paralympaidd.

Dywedodd Geraint Thomas o Gaerdydd, a enillodd ei ail fedal aur yn ystod y gemau eleni, y dylid dod o hyd i gartref parhaol i’r cylchoedd.

“Mae pobol yn awyddus i sicrhau bod y Gemau Olympaidd yn gadael ryw fath o etifeddiaeth ac yn ysbrydoli pobol, ac rydw i’n siŵr y bydden nhw’n gwneud hynny,” meddai’r seiclwr 26 oed wrth y Western Mail.

Mae disgwyl y bydd yn costio £40,000 arall i symud y cylchoedd pum tunnell i gartref newydd.

Dywedodd Chwaraeon Cymru na fyddai yn bosib iddyn nhw dalu’r gost, oherwydd y byddai hynny yn golygu gwario llai ar hybu chwaraeon ar lawr gwlad.

Os nad oes unrhyw un yn cynnig cartref i’r cylchoedd fe fyddwn nhw’n cael eu cadw mewn storfa.