Mae’r heddlu’n holi dyn 28 oed ar amheuaeth o lofruddio dynes gafodd ei thrywanu i farwolaeth mewn tacsi.

Cafodd y dyn, Junior Saleem Oakes, ei arestio neithiwr ar ôl cael ei ddarganfod yng ngardd tŷ yn ardal Northfield yn Birmingham.

Cafodd y ddynes ei thrywanu sawl gwaith mewn car Peugeot yn Northfield tua 8yb ddoe. Dyw’r heddlu heb gyhoeddi ei henw.