Mae’r BBC yn cael “ei ddinistrio gan doriadau”, honnodd undeb newyddiadurwyr yr NUJ heddiw.
Daw’r gwyn ar ôl i’r gorfforaeth gyhoeddi y bydd 31 o swyddi yn cael eu torri ar ochor materion cyfoes y BBC yn Llundain a Manceinion.
“Mae’n mynd i fod yn amser caled i’r gweithwyr gwych yn ein hadran gwasanaethau cyfoes ni, ac rydw i eisiau pwysleisio eu bod nhw wedi gwneud gwaith da,” meddai Clive Edwards, prif weithredwr yr adran.
“Rydyn ni’n benderfynol o barhau i gynhyrchu’r rhaglenni gorau posib ond er mwyn gwneud hynny’n mae’n bwysig ein bod ni’n ailstrwythuro.”
Beirniadodd yr NUJ y toriadau, sy’n dilyn cyhoeddiad y bydd cannoedd o swyddi yn mynd ar wefan y BBC ac yng Ngwasanaeth y Byd.
“Mae’r toriadau i adran materion cyfoes y BBC yn dystiolaeth bellach o’u hagwedd di-asgwrn cefn wrth ymdrin â Llywodraeth San Steffan,” meddai’r dirprwy ysgrifennydd cyffredinol, Michelle Stanistreet.
“Dipyn wrth dipyn mae darlledwr gwych sydd wedi ei adeiladu dros gyfnod o 90 mlynedd yn cael ei ddinistrio.”