Mae Syr Steve Redgrave wedi cyfaddef ei fod “ychydig yn siomedig” na chafodd ei ddewis i gynnau’r fflam Olympaidd.
Y rhwyfwr oedd y ffefryn i gynnau’r fflam pan ddaeth y seremoni i ben yn ystod oriau mân y bore ddydd Sadwrn.
Dywedodd ei fod yn gystadleuol iawn ac y byddai’r cyfle i gynnau’r fflam wedi bodloni ei ego.
Ond ychwanegodd ei fod yn cytuno mai’r penderfyniad i ganiatáu i saith athletwr ifanc gynnau’r fflam oedd yr un cywir.
“Wrth edrych yn ôl rhaid cyfaddef fy mod i ychydig yn siomedig wrth gael gwybod na fyddwn i’n cynnau’r fflam Olympaidd,” meddai.
“Dydw i ddim yn bod yn drahaus. Roedd pawb oeddwn i’n ei nabod yn dweud mai fi fyddai yn gwneud, ond roeddwn i’n gwybod na fyddai yn digwydd.
“Rydw i’n unigolyn hynod o gystadleuol ac mae gen i dipyn o ego, felly fe fyddwn i wedi bod wrth fy modd yn cael cynnau’r fflam.
“Doeddwn i ddim yn erbyn y syniad bod saith person ifanc yn cynnau’r fflam. Ond roedd ymdopi â disgwyliadau pawb arall yn anodd.
“Fe fyddai wedi bod yn llawer anoddach petai athletwr arall o fy nghenhedlaeth i wedi cael cynnau’r fflam yn fy lle i.”
Dywedodd ei fod wedi cael gwybod tua phythefnos cyn dechrau’r seremoni beth fyddai yn digwydd.