Mae trefnwyr y Gemau Olympaidd yn ymchwilio wedi i gefnogwyr gwyno bod rhesi o seddi gwag i’w gweld yn ystod rhai cystadlaethau.

Roedd bylchau mawr i’w gweld mewn sawl man, gan gynnwys y Ganolfan Nofio lle y methodd Hannah Miley o Brydain sicrhau lle ar y podiwm.

Roedd gwagleoedd hefyd i’w gweld yn y cystadlaethau gymnasteg, badminton a phêl fasged, er gwaetha’r drafferth yr oedd cefnogwyr wedi ei gael wrth geisio sicrhau tocynnau.

Roedd y seddi rhataf yn uwch yn yr eisteddle yn llawn, ond roedd y seddi costus ymhellach i lawr heb eu llenwi.

Yn y cyfamser roedd tyrfaoedd mawr ar y strydoedd er mwyn gwylio Mark Cavendish a gweddill ei dîm yn cystadlu yn y ras seiclo, lle nad oedd angen tocyn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, bod y seddi gwag yn “siomedig iawn” ac y dylid eu cynnig i aelodau o’r cyhoedd sy’n cyrraedd ar y diwrnod.

“Roeddwn i yn Beijing yn 2008, ac un o’r gwersi bryd hynny oedd bod angen llenwi’r stadiwms er mwyn sicrhau’r awyrgylch gorau i’r pencampwyr a’r gwylwyr,” meddai.

“Mae Locog yn ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd, a’r gred yw mai seddi wedi eu rhannu ymysg y noddwyr oedden nhw.

“Ond os nad ydyn nhw’n mynd i drafferthu mynychu’r cystadlaethau fe ddylai’r tocynnau fod ar gael i’r cyhoedd.

“Rydyn ni’n cynnal ymchwiliad brys ar hyn o bryd.”

Dywedodd un o wylwyr y bêl fasged, Jane Smith, o Lundain, ei bod wedi cael siom wrth weld y seddi gwag.

“Ar ôl yr holl ffadwn i gael gafael ar docyn, mae’n siomedig iawn gweld seddi gwag,” meddai. “Dyw hi ddim yn helpu’r awyrgylch o gwbl.”

Dywedodd llefarydd ar ran Locog bod rhai tocynnau heb eu gwerthu ac y dylai’r cyhoedd fynd ar-lein er mwyn gweld beth oedd ar gael.

“Roedd y rhan fwyaf o’r stadiwms yn llawn dop heddiw,” meddai. “Rydyn ni’n ymchwilio i bwy oedd wedi archebu’r seddi gwag, a pham nad oedden nhw yno.

“Y gred yw bod y seddi gwag yn rhai oedd yno ar gyfer y cyfryngau a noddwyr. Ond dyma’r diwrnod cyntaf llawn ac fe fydd modd i ni gael darlun cliriach o faint oedd wedi mynychu.”