Siling Yi
Mae medal aur gyntaf y Gemau Olympaidd yn Llundain wedi mynd i ddwylo China.

Enillodd Yi Siling gystadleuaeth saethu â reiffl awyr o 10 metr yn Woolwhich y bore ma.

Y ferch 23 oed oedd y ffefryn i gipio’r aur, a gwnaeth hynny ar draul y Bwyles Sylwia Bogacka.

Roedd Sylwia Bogacka, 30, ar y blaen nes ei wythfed siot, ond fe wnaeth gawlach ohono a bu’n rhaid iddi fodloni â medal arian.

“Rydw i wrth fy modd,” meddai Yi Siling ar ôl derbyn y fedal gan gadeirydd y Pwyllgor Rhyngwladol Olympaidd, Jacques Rogge.

“Hoffwn i ddweud diolch wrth China, a fy mam a fy nhad.

“Rydw i wedi bod ar fy nhraed ers 5am y bore ma. Roedd lawer iawn o bwysau arna’i.”

Dywedodd Sylwia Bogacka nad oedd hi’n rhy siomedig er iddo orfod bodloni ar fedal arian.

“Mae’n digwydd weithiau,” meddai. “Dydw i ddim yn teimlo fel collwr ar ôl dod yn ail.”