Stadiwm Wembley
Mae Craig Bellamy wedi dweud ei fod yn disgwyl bod yn holliach ar gyfer ail gêm pêl-droed y dynion yng Ngemau Olympaidd 2012.

Fe fydd tîm y Deyrnas Unedig yn herio’r Emiradau Arabaidd Unedig yn Stadiwm Wembley ddydd Sul.

Sgoriodd y Cymro unig gôl ‘Tîm GB’ yn eu gêm agoriadol yn erbyn Senegal, ond bu’n rhaid iddo adael y cae ar ôl tacl beryglus gan Saliou Ciss.

Sgoriodd Senegal eu gôl eu hunain i unioni’n sgôr wyth munud cyn diwedd y gêm.

“Fe ges i ddolur i fy mhen glin ond fe ddylwn i fod yn holliach,” meddai Craig Bellamy.

“Mae’n rhaid i mi gofio fy mod i’n paratoi ar gyfer dechrau’r tymor hefyd, er bod hwn yn gêm ryngwladol gystadleuol.

“Roedd yn amlwg yn yr 20 munud cyntaf nad oedd hynny wedi gwawrio arnom ni, ond mae gennym ni gêm arall i roi gwell trên ar bethau.”