Nadolig Llawen! Llun: y Guardian
Mi roedd hi’n Ho Ho Ho yn Harrods heddiw wrth i Siôn Corn agor adran Nadolig arbennig y siop enwog.

Roedd rheolwyr Harrods wedi penderfynu lansio’r adran Nadoligaidd 151 diwrnod cyn y Nadolig er mwyn manteisio ar yr holl ymwelwyr o dramor sydd yn Llundain ar hyn o bryd ar gyfer y Gemau Olympaidd.

Mae’r nwyddau sydd ar gael yn yr adran Nadolig yn cynnwys bocs o gracyrs sy’n costio £1,299.