Vince Cable
Mae Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth Prydain, Vince Cable, wedi dweud y byddai’n Ganghellor da.

Mewn cyfweliad ar y rhaglen Newsnight neithiwr, dywedodd y byddai’n gwneud Canghellor da ond mai George Osborne sy’n gwneud y swydd ar hyn o bryd.

“Rydym yn ei wneud yn dda fel rhan o dîm, a does neb yn awgrymu ein bod yn newid y trefniadau,” meddai Vince Cable, gan ychwanegu ei fod yn canolbwyntio ar ei ran ef o’r polisi, sef polisi diwydiannol.

Mae George Osborne wedi cael ei feirniadu gan rai  yn ddiweddar a’i alw yn ganghellor rhan amser gan ei fod hefyd yn gweithio ar strategaeth etholiadol y Blaid Geidwadol.

Dywedodd Vince Cable nad oedd yn cynnig ffordd gwbl wahanol i ddatrys problemau’r economi i’r hyn y mae’r Canghellor yn ei wneud ar hyn o bryd.

“Mae’r ddau ohonon ni’n gweithio’n galed ac yn gweithio’n llawn amser ar yr hyn yr ydym i fod ei wneud,” ychwanegodd.