Mae newyddiadurwr o bapur newydd y Sun wedi cael ei arestio heddiw gan heddlu sy’n ymchwilio i adroddiadau o hacio gan newyddiadurwyr.

Aeth heddweision Operation Tuleta i dŷ Rhodri Phillips yng ngogledd Llundain a’i arestio am 6.30 y bore ma.

Mae llefarydd ar ran News International wedi cadarnhau fod newyddiadurwr o bapur The Sun wedi cael ei arestio. Fe yw’r seithfed person i gael ei arestio fel rhan o Operation Tuleta sy’n ymchwilio i adroddiadau o dorri preifatrwydd a hacio cyfrifiaduron.

Mae 24 o bobol wedi cael eu harestio fel rhan o ymgyrch gysylltiedig Operation Weeting, sy’n ymchwilio i hacio ffonau.

Dywedodd llefarydd ar ran Scotland Yard nad ydyn nhw am ryddhau gwybodaeth bellach ar hyn o bryd.