Mae dynes 33 oed o’r Ffindir wedi cael ei chludo gan yr awyrlu i Ysbyty Gwynedd Bangor wedi iddi gael ei tharo’n wael ar fwrdd llong nwy.

Ymatebodd bâd achub Caergybi i alwad gan long, sydd wedi ei chofrestru yn Norwy, am 7 o’r gloch y bore yma.

Ar ôl asesu cyflwr y ddynes a gweld ei bod yn gwaethygu, galwyd am hofrennydd i’w chludo i’r ysbyty.

Mae’n debyg bod y ferch ar feddyginiaeth ar gyfer ei harennau.