Ysbyty Glan Clwyd
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn trafod y bore ma gynlluniau i ad-drefnu ysbytai yng ngogledd Cymru, gan gynnwys cau ysbytai Blaenau Ffestiniog a’r Fflint.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn ystyried adroddiad gan Dr Edward Roberts sydd wedi argymhell troi Ysbyty Blaenau Ffestiniog yn glinig ar gyfer y gymuned, a thynnu’r gwlâu ar gyfer cleifion dros-nos oddi yno.
Bydd y Bwrdd hefyd yn trafod cwtogi’r canolfannau llawdriniaethau brys, a chau llawdriniaethau brys yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, a’r Aelod Cynulliad dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, fod y cynlluniau’n “annerbyniol.”
“Rwy’n siomedig gydag amseriad y cynlluniau. Mae Betsi Cadwaladr yn meddwl ei bod hi’n ddiwrnod da ar gyfer claddu newydd drwg.
“Mae’r angen am newidiadau i wasanaethau Gwasanaeth Iechyd yn ymateb amlwg i doriadau yn y gyllideb iechyd gan Lafur
“Rwy’n pryderu ein bod ni’n wynebu haf hir o ansicrwydd ar gyfer cleifion a staff y Gwasanaeth Iechyd yn y rhanbarth.”
Mae disgwyl i gyfarfod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddod i ben yn gynnar yn y prynhawn. Os bydd y cynlluniau yn cael eu cymeradwyo bydd y Bwrdd Iechyd yn cynnal ymgynghoriad gyda’r cyhoedd.