Dafydd Elis Thomas
Mae Dafydd Elis-Thomas wedi gwadu ei fod yn ymbellhau oddi wrth ei blaid ei hun, a dywedodd fod ei bresenoldeb mewn seremoni raddio prifysgol yn bwysicach na’r “chwarae plant” dros bleidlais o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd.
Ddoe cyhoeddodd Plaid Cymru bod yr AC wedi colli chwip y blaid dros dro am fethu â phleidleisio yn y Senedd neithiwr.
Mewn cyfweliad gyda Golwg360 dywedodd Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd, sydd hefyd yn Ganghellor Prifysgol Bangor, fod arweinwyr Plaid Cymru yn gwybod fod ganddo ymrwymiad i fynd i seremonïau graddio a gwadodd ei fod yn absennol heb “reswm digonol”, fel y dywed ei blaid.
“Ers 2001 dw i’n Ganghellor ar Brifysgol Bangor ac roedd gen i drefniant pan oeddwn i’n Llywydd y Cynulliad i fynd i seremonïau’r brifysgol,” meddai Dafydd Elis-Thomas.
“Yr un yw’r trefniant nawr ac mae arweinwyr Plaid Cymru yn gwybod beth yw’r sefyllfa.
“Byddai wedi bod yn rhyfedd tasai Canghellor yn absennol o’r seremoni raddio,” meddai.
“Pwysau rhyfedd gan y Ceidwadwyr”
Dywedodd Dafydd Elis-Thomas fod “pwysau rhyfedd” wedi dod gan chwip y Ceidwadwyr i bleidleisio yn y bleidlais o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, ddoe ac y “byddai’r bleidlais heb ei hennill beth bynnag.”
“Rhaid i Blaid Cymru fod yn fwy annibynnol ei barn,” meddai.
“Dydyn ni ddim yn y Cynulliad i gynnal breichiau’r Ceidwadwyr.”
Ymbellháu oddi wrth y blaid?
Gwadodd Dafydd Elis-Thomas fod unrhyw wirionedd i’r sïon ei fod am adael Plaid Cymru.
“Dw i’n Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd ac mae fy nheyrngarwch i i’r bobol wnaeth fy ethol.”
Mewn ymateb i’r cwestiwn a yw’r teyrngarwch hwnnw’n bwysicach na theyrngarwch plaid, dywedodd fod “hynny’n dibynnu ar beth mae’r blaid yn ei wneud”.
“Os ydyn ni am gynnal y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd yna nid er mwyn hynny ces i fy ethol,” meddai.