Y ty yn Derby lle bu farw'r plant
Mae dyn 34 oed a dynes 29 oed o Derby wedi cael eu harestio heddiw mewn cysylltiad â thân mewn tŷ lle cafodd chwech o blant eu lladd.

Mae  rhieni’r plant, Mick a Mairead Philpott, eisoes wedi eu cyhuddo o lofruddio Jade Philpott a’i brodyr John, Jack, Jesse, Jayden, a Duwayne.

Fe fydd Mick Philpott, 55, a’i wraig Mairead, 31, yn  sefyll eu prawf ar 14 Ionawr.

Maen nhw wedi eu cyhuddo o lofruddio eu plant yn eu cartref yn Allenton, Derby ar 11 Mai.

Dywedodd y dirprwy Brif Gwnstabl Steve Cotterill heddiw: “Mae’r arestiadau diweddaraf yn rhan o’r ymchwiliad sy’n parhau i amgylchiadau’r tân.

“Er gwaetha’r ffaith bod dau berson eisoes wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth, rydyn ni’n parhau â’r ymchwiliad. Ni fydd unrhyw wybodaeth bellach yn cael ei ryddhau ar hyn o bryd.”

Dylai unrhyw un  sydd â gwybodaeth ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.