Milly Dowler, gafodd ei llofruddio gan Levi Bellfield
Mae’r Uchel Lys wedi dyfarnu bod dau bapur newydd yn euog o ddirmyg llys mewn perthynas ag achos Levi Bellfield.

Cafwyd Bellfield yn euog y llynedd o lofruddio’r ferch ysgol Milly Dowler.

Penderfynodd yr Uchel Lys fod y Daily Mail a’r Daily Mirror wedi cyhoeddi erthyglau am yr achos hwnnw a allai fod wedi dylanwadu ar reithgor wrth iddyn nhw ystyried ail gyhuddiad o gipio merch arall, Rachel Cowles.

Mae’r papurau newydd wedi gwrthod y cyhuddiadau.

Cafodd y rheithgor yn yr ail achos ei ryddhau pan ddaeth yr erthyglau i’r amlwg.

Roedd Bellfield eisoes yn y carchar pan gafwyd e’n euog o ladd Milly Dowler, ar ôl ei gael yn euog yn 2008 o ladd Marsha McDonnell ac Amelie Delagrange a cheisio lladd Kate Sheedy.

Dadleuodd y papurau newydd nad oedd eu herthyglau’n debygol o ddylanwadu ar yr achos llys.

Dywedodd y barnwr Syr John Thomas fod y deunydd a gafodd ei gyhoeddi yn “mynd y tu hwnt i’r hyn a gafodd ei ddweud wrth y rheithgor am Bellfield, er eu bod yn gwybod ei fod yn llofrudd ac wedi ei gael yn llofrudd unwaith eto”.

Ychwanegodd y barnwr: “Roedd yna wir risg y byddai’r rheithgor wedi meddwl bod y deunydd ychwanegol yn berthnasol i’r cyhuddiad a oedd yn weddill, pan gafodd ei gyhuddo o geisio cipio merch ysgol.”

“Rwy’n sicr bod pob cyhoeddiad wedi creu’r fath risg sylweddol o ragfarn ddifrifol.

“Mae’r honiadau ynghylch ei ddiddordeb rhywiol a’i ymddygiad pwdr tuag at ferched ifanc yn rhagfarnllyd o ran y cyhuddiad yr oedd y rheithgor yn ei ystyried o hyd bryd hynny.

“Roedd yr hyn a gafodd ei nodi wedi mynd y tu hwnt i’r hyn a gafodd ei ddweud wrth y rheithgor neu’r hyn a gafodd ei ddarlledu’r noson flaenorol.

“Does gen i fawr o amheuaeth pe na bai’r rheithgor wedi cael ei ryddhau, fe fyddai yna bwynt dadleuol iawn i’w godi fod yr euogfarn yn anniogel.”