Mae’r bocsiwr Amir Khan wedi cael ei guro gan yr Americanwr Danny Garcia yn eu gornest pencampwriaeth y byd yn Las Vegas.

Mi gafodd Khan, sy’n dod o Bolton, ei daro i lawr tair gwaith yn ystod yr ornest, ac fe ataliwyd yr ornest yn y bedwaredd rownd.

Dyma’r trydydd tro i Amir Khan golli yn ystod ei yrfa. Aethpwyd ag e i’r ysbyty i gael sgan ar ôl yr ornest.