Ty'r Arglwyddi
Mae disgwyl i’r Llywodraeth gyhoeddi eu cynlluniau diweddara’ i ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi heddiw, gydag awgrym y gallai’r Prif Weinidog fod yn barod i gyfaddawdu.
Mae David Cameron wedi dweud y bydd yn rhoi “un cynnig arall” ar lywio mesur diwygio trwy’r Senedd – hynny ar ôl i 91 o’i aelodau seneddol Ceidwadol ef ei hun wrthryfela ynghynt yr wythnos hon.
Roedden nhw’n anhapus gyda bwriad i dorri nifer yr Arglwyddi i 450 a sicrhau bod 80% ohonyn nhw’n cael eu hethol yn uniongyrchol.
Awgrym o gyfaddawd
Mae David Cameron wedi rhoi awgrym y gallai fod yn barod i gyfaddawdu ar hynny a thorri’r canran sy’n cael eu hethol.
Fe fyddai hynny’n golygu ffrae gyda’i bartneriaid yn Llywodraeth y Glymblaid, y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n ystyried fod diwygio’r Arglwyddi yn un o’u polisïau hanfodol.
Ond fe ddywedodd y Prif Weinidog wrth bwyllgor aelodau mainc gefn y Ceidwadwyr nad oedd am barhau i fargeinio’n ddiddiwedd gyda’r Democratiaid.
Y nod
Ei nod, mae’n debyg, yw cael digon o gefnogaeth ymhlith y Ceidwadwyr i allu cynnig mesur newydd a chael amserlen gaeth ar gyfer ei drafod – rhag i’r diwygio lenwi amserlen Tŷ’r Cyffredin a thagu trafodaethau eraill.
Mae disgwyl y bydd Arweinydd y Tŷ, Syr George Young, yn amlinellu’r cynlluniau diweddara’ wrth wneud ei ddatganiad busnes wythnosol yn Nhŷ’r Cyffredin.