Fe fydd 3,500 o filwyr ychwanegol eu hangen fel swyddogion diogelwch yn ystod y Gemau Olympaidd yn sgil pryderon bod cwmni preifat wedi methu â chwrdd â’r galw.
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond gyhoeddi heddiw y bydd y milwyr ychwanegol yn dod â’r ffigwr i 17,000.
Gyda dim ond pythefnos i fynd cyn i’r Gemau ddechrau, mae’r cwmni G4S wedi cyfaddef eu bod yn cael problemau staffio ac wedi derbyn bod y Llywodraeth yn troi at y fyddin am help ychwanegol.