Peter Reeve
Mae’r heddlu wedi canfod corff dyn yr oedden nhw’n chwilio amdano ar ôl i blismon gael ei ladd, a dyn arall gael ei anafu.

Cafodd y cwnstabl Ian Dibell ei saethu’n farw a dyn arall ei anafu ar ol i Peter Reeve, 64, danio gwn atyn nhw mewn stryd yn Clacton-on-Sea yn Essex brynhawn ddoe.

Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am Reeve ers neithiwr, gan addo na fydden nhw’n rhoi’r gorau iddi hyd nes iddyn nhw ei ganfod.

Mae yna le i gredu bod PC Dibell wedi ymyrryd mewn ffrae rhwng Reeve a’i gymydog.

Cafodd corff Reeve ei ganfod y bore yma ym mhentref Writtle ger Chelmsford.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Essex, Jim Barker-McCardle: “Gallaf gadarnhau fod Peter Reeve, y dyn a oedd dan amheuaeth o lofruddio plismon, wedi ei ganfod yn farw ag arf yn ei feddiant mewn mynwent yn Writtle ac na chafwyd ergydion gan yr heddlu.”

Mae teulu PC Dibell wedi ei alw’n “arwr” a dywedon nhw ei fod wedi talu’r pris “yn y modd gwaethaf posib”.