Ann Keane
Mae’r corff arolygaeth addysg a hyfforddiant, Estyn, wedi cyhoeddi adroddiad sy’n dangos bod Bagloriaeth Cymru yn helpu myfyrwyr i wella eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u medrau rhyngbersonol.
Dywed Estyn fod modd ehangu’r cymhwyster ymhellach ar sail yr ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi yn yr adroddiad Darpariaeth Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar lefel 3 mewn ysgolion uwchradd – canllaw arfer dda.
Yn y gorffennol, roedd yn anodd mesur llwyddiant Bagloriaeth Cymru am nad yw’n rhan o’r gweithdrefnau sicrhau ansawdd.
Cafodd yr adroddiad ei lunio ar sail tystiolaeth o 22 o ysgolion uwchradd yng Nghymru a holiaduron a gafodd eu llenwi gan naw o’r ysgolion hynny.
Mae’r adroddiad yn tynnu ar wybodaeth gafodd ei chasglu fel rhan o nifer o astudiaethau achos ledled Cymru, ac mae’n cynnig nifer o argymhellion ar gyfer ei datblygu ymhellach.
Un o’r argymhellion yw y dylai Llywodraeth Cymru ystyried adolygu strwythur Bagloriaeth Cymru, ac addasu’r modd y mae myfyrwyr yn cael eu graddio wrth gael eu hasesu.
Yn ôl yr adroddiad, dylid adolygu’r drefn o asesu cymwysterau medrau hanfodol, sef un o ofynion asesu’r Fagloriaeth.
‘Datblygu medrau’
Dywedodd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Ann Keane: “Yn 2011, cafodd dros 8,000 o fyfyrwyr 16-19 oed eu cofrestru ar gyfer Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar lefel uwch.
“Mae Bagloriaeth Cymru yn helpu pobl ifanc i ddatblygu eu medrau a’u dealltwriaeth ar draws ystod o destunau, fel menter, gwleidyddiaeth a materion cyfoes na fyddent efallai wedi’u hastudio fel arall.
“Fodd bynnag, mae’r ystod eang o safonau sy’n cael eu cyflawni ar graidd lefel 3 Bagloriaeth Cymru yn awgrymu y byddai graddio Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn adlewyrchu ystod deilliannau myfyrwyr yn decach.
“Mae amrywioldeb yn ansawdd y ddarpariaeth hefyd. Mae’r gwendidau mwyaf yn y modd y caiff medrau hanfodol eu haddysgu a’u hasesu.”
Croesawu’r adroddiad
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn croesawu adroddiad Estyn, y gwnaethom ei gomisiynu er mwyn cyfeirio datblygiad cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn y dyfodol.
“Ers ei gyflwyno, mae Bagloriaeth Cymru wedi’i groesawu’n eang gan ddysgwyr, addysgwyr a chyflogwyr. Mae nifer o enghreifftiau o arfer dda gan ysgolion yn cael eu nodi yn yr adroddiad ac rydym yn cytuno bod angen i’r rhain gael eu rhannu ledled Cymru er mwyn sicrhau safon uchel barhaus wrth gyflwyno Bagloriaeth Cymru.
“Rydym yn cytuno gyda’r angen i gyflwyno graddio ar Safon Uwch ac mae’r gwaith wedi dechrau i gyflwyno hynny ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi 2013.”