Kirsty Williams
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, wedi ymateb yn chwyrn i honiadau nad yw adroddiad sydd wedi ei ryddhau am gyflwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru , yn un annibynnol.

Yn ôl y BBC, mae cyfres o negeseuon e-bost wedi eu rhyddhau sy’n awgrymu bod swyddogion Llywodraeth a byrddau iechyd wedi ymyrryd yn yr adroddiad.

Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, eisoes wedi galw am ddatganiad yn y Cynulliad gan y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths.

Mae Llywodraeth Cymru wedi wfftio galwadau ar y Gweinidog Iechyd i ymddiswyddo.

Mae Kirsty Williams yn honni bod y negeseuon e-bost yn gwrthddweud datganiad Lesley Griffiths fod yr adroddiad yn “asesiad annibynnol” a’i fod yn “ddiduedd, ac wedi’i seilio ar y dystiolaeth yn unig”.

Mae yna honiadau bod yr Athro Marcus Longley o Brifysgol Morgannwg wedi gofyn am wybodaeth gan benaethiaid y Gwasanaeth Iechyd er mwyn cefnogi newid.

Mae disgwyl i’r adroddiad arwain at newidiadau sylweddol i’r Gwasanaeth Iechyd, a allai olygu cwtogi ar wasanaethau a chau rhai adrannau.

‘Sarhad gwarthus’

Dywedodd Kirsty Williams: “Mae’r sgyrsiau hyn dros e-bost yn amlwg yn gwrthddweud datganiadau’r Gweinidog Iechyd fod yr adroddiad ‘Achos dros Newid’ yn “asesiad annibynnol” a’i fod yn “ddiduedd, ac yn seiliedig ar y dystiolaeth yn unig”.

“Mae hyn yn sarhad gwarthus ar  nifer y bobl yng Nghymru sy’n iawn i bryderu am yr ad-drefnu sydd i ddod yn y Gwasanaeth Iechyd. Sut fedrwn ni ymddiried ym mhroses ad-drefnu llywodraeth Lafur Cymru pan maen nhw wedi lliwio dogfennau at eu hanghenion eu hunain?

“Bydd nifer yn cofio sut y gwnaeth Llywodraeth Lafur y DU liwio’r ffeil ar ryfel Irac i brofi eu hachos dros ryfel. Dyw hi ddim yn syndod eu bod wedi gwneud hyn eto.

“Mae’r Gweinidog Iechyd wedi dweud ar nifer o achlysuron mai ei chyfrifoldeb hi ydyw. Bydd yn rhaid iddi ymddangos o flaen ACau cyn gynted â phosib i esbonio pam eu bod wedi addasu’r adroddiad hwn at eu hanghenion eu hunain.”

Mae llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar, eisoes wedi beirniadu’r llywodraeth.

Dywedodd: “Mae’r dystiolaeth yma’n drewi. Mae’n dangos bod uwch swyddogion Llywodraeth Cymru, Conffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a’r Athro Longley wedi cynllwynio i gynhyrchu adroddiad gyda chasgliad a oedd wedi’i benderfynu ymlaen llaw.”