Bydd un o lawysgrifau mwyaf hanesyddol Cymru yn mynd ar werth heddiw am swm sy’n disgwyl o fynd heibio hanner miliwn o bunnoedd.
Mae amcangyfrifon yr arwerthwyr Sotheby’s yn disgwyl i’r llawysgrif brin werthu am gymaint â £700,000.
Mae’r llyfr yn manylu ar gyfraith arloesol a luniwyd gan Hywel Dda, gan gynnwys hawliau i ferched.
Yn y 1700au, fe aeth gwladychwyr â’r llyfr gyda nhw i America ac yna ei basio ‘mlaen drwy genedlaethau yn y cymunedau Cymraeg ym Mhennsylvania.
Bydd yn mynd ar werth yn Llundain nes ymlaen y bore ma.