Mae Pennaeth Materion Corfforaethol S4C, Tim Hartley, wedi penderfynu gadael y sianel.

Roedd Tim Hartley  yn gyfrifol am berthynas S4C â gwleidyddion yn y Cynulliad ac yn San Steffan.

Ers ei benodiad yn 2004, bu hefyd yn gyswllt rhwng y sianel â nifer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, “Mae Tim wedi chwarae rôl ganolog yn S4C yn enwedig yn ystod cyfnod pwysig y blynyddoedd diwethaf ac mae wedi meithrin perthynas adeiladol iawn gyda gweinidogion a gwleidyddion.

“Rydym yn dymuno’n dda iddo wrth iddo ymgymryd â heriau newydd ac yn diolch o waelod calon iddo am ei gyfraniad i ddyfodol y Sianel.”

Bydd y Pennaeth Partneriaethau newydd yn gyfrifol am waith cyswllt gwleidyddol S4C yn dilyn ymadawiad Tim Hartley.