Y tai gafodd eu difrodi
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i ffrwydrad enfawr mewn stryd o dai ddoe, yn dweud eu bod yn trin y digwyddiad fel un amheus.

Cafodd Jamie Heaton, 2 oed, ei ladd yn y ffrwydrad a chafodd Anthony Partington, 27, losgiadau difrifol ar ôl i dri dŷ teras gael eu difrodi yn y ffrwydrad yn ardal Shaw yn Oldham.

Mae heddlu Manceinion yn trin marwolaeth y plentyn fel un amheus yn dilyn adroddiadau bod ffrae wedi digwydd ar y safle y noson gynt.