Prifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi academydd blaenllaw yn bennaeth newydd ar Adran y Gymraeg.

Cafodd penodiad  yr Athro Aled Gruffydd Jones ei gadarnhau gan Gyngor Prifysgol Aberystwyth mewn cyfarfod  ddoe.

Mae’r Athro Jones yn Ddirprwy Is-Ganghellor Hŷn yn y Brifysgol ac yn gyfrifol am oruchwylio datblygiad darpariaeth Gymraeg ar draws y Brifysgol.

Mae hefyd yn aelod o Fwrdd Rheoli’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn Gadeirydd Pwyllgor Ymchwil y Coleg.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r Gymraeg, yr iaith a’i diwylliant, yn gwbl greiddiol i hunaniaeth Prifysgol Aberystwyth ac rwy’n hynod falch fod Aled wedi ei benodi i arwain Adran y Gymraeg.

“Ers ei benodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor yn 2005 bu’n gyfrifol am gryfhau’r Gymraeg o fewn y Brifysgol ac mae’r penodiad hwn yn gwbl gydnaws gyda’r hyn y mae wedi ei gyflawni hyd yma.”

Cryfhau’r Gymraeg

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Jones: “Rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i arwain Adran y Gymraeg yn ystod cyfnod cyffrous yn natblygiad darpariaeth Addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

“Bûm yn ymwneud â sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac rwyf yn awyddus i weld Adran y Gymraeg yn cyfrannu’n llawn at y gwaith o gryfhau’r Gymraeg led led y Brifysgol ac at adeiladu ar y ddarpariaeth academaidd, yn arbennig ymhlith ôl-raddedigion.”

Er y bydd yr Athro Jones yn parhau yn ei swydd fel Dirprwy Is-Ganghellor Hŷn, bydd yn rhoi’r gorau i rai cyfrifoldebau o fewn ei bortffolio, sef Ymchwil, Menter a Chysylltiadau Rhyngwladol, er mwyn canolbwyntio ar arwain Adran y Gymraeg.

Mae’r Athro Jones yn olynu’r Athro Patrick Sims-Williams.