Martin McGuinness
Fe fydd y Frenhines yn ysgwyd llaw gyda Martin McGuinness o Sinn Fein heddiw sy’n cael ei weld fel carreg filltir bwysig yn y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

Fe fydd y Frenhines a dirprwy Brif Weinidog Stormont – sy’n gyn-aelod o’r IRA – yn cwrdd am gyfarfod hanesyddol ym Melffast heddiw ar ddiwrnod olaf ymweliad y Frenhines a Dug Caeredin i Ogledd Iwerddon.

Mae’n cael ei weld fel cam arwyddocaol iawn gan ymgrchwyr heddwch tra bod y gweriniaethwr Martin McGuiness wedi dweud y bydd yn dangos i unoliaethwyr eu bod yn parchu yr hyn mae nhw’n ei gredu ynddo.