Mae plentyn wedi marw yn dilyn ffrwydrad oedd wedi difrodi tŷ yn ardal Shaw yn Oldham heddiw.
Mae un person yn gaeth o dan y rwbel ac un arall ar goll.
Dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n siŵr ar hyn o bryd faint o bobl eraill sydd wedi eu heffeithio gan y ffrwydrad a ddigwyddodd tua 11.15am bore ma.
Mae mwy na 30 o ddiffoddwyr tân ar y safle, ynghyd a thimau achub.
Yn gynharach cafodd dyn gyda llosgiadau difrifol ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Wythenshawe ym Manceinion.
Mae’r heddlu’n credu mai nwy oedd yn gyfrifol am y ffrwydrad mewn stryd o dai teras.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod yn asesu’r sefyllfa ar hyn o bryd ac yn ceisio sicrhau bod pobl yn cael gofal meddygol mor fuan â phosib.