Mae pedwar o brotestwyr yn cael eu holi gan yr heddlu heddiw ar ôl iddyn nhw ddringo giatiau Palas Buckingham ddoe a chlymu eu hunain i’r rheiliau.

Mi roedden nhw’n protestio am y diffyg gweithredu o ran y newid yn yr hinsawdd.

Mi wnaeth yr heddlu gymryd mwy na pedair awr i symud y protestwyr oddi yno.

Dywed y protestwyr eu bod nhw’n perthyn i’r grŵp Climate Siren, a’u bod nhw’n galw ar y Frenhines i ddilyn esiampl ei mab, y Tywysog Siarl, gan siarad yn gyhoeddus yn erbyn “y bygythiad o newid catastroffig yn yr hinsawdd.”

Dywedodd y Tywysog Siarl nad oedd gweithredu i atal newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn ddigon sydyn mewn araith i Senedd Ewrop yn 2008.