Jimmy Carr
Ar ôl iddo ddod yn gocyn hitio Prif Weinidog Prydain am ei drefniant osgoi talu treth, mae’r digrifwr Jimmy Carr wedi cael ei fryfocio ar ei raglen gwis ei hun.

Heno ar 8 Out Of 10 Cats ar Channel 4 mae capten un o dimau’r sioe, Sean Lock yn dweud: “We all like to put a bit of money away for a rainy day, don’t we? But I think you’re more prepared than Noah.”

Ac mae Carr ei hun yn ymuno’n yr hwyl: “I hate to sound like I’m passing the buck, but I’ll tell you who I blame for this whole mess – me. It’s entirely my fault.”

Wedi i David Cameron ei feirniadu am osgoi talu treth, a hynny drwy ffyrdd cwbwl gyfreithlon, roedd Carr wedi dweud ei fod wedi gwneud “camgymeriad ofnadwy” ac addo newid ei ffyrdd.

Roedd y gwybodusion yn trafod achos Carr a miliwnyddion eraill sy’n osgoi talu trethi ar Question Time neithiwr.