Blaidd
Mae George Monbiot wedi tynnu nyth cacwn am ei ben yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon gyda’i alwad i ailgyflwyno’r blaidd i ucheldir Cymru.

Bu colofnydd dadleuol The Guardian yn byw ym Machynlleth am sawl blwyddyn ac mae o’r farn  bod angen cryfhau ecoleg yr ardal.

“Mae fel petae yna aeaf niwclear wedi digwydd,” meddai Monbiot wrth gylchgrawn Golwg.

Er mwyn gwella’r sefyllfa mae’n cynnig bod y blaidd, y baedd gwyllt a’r afanc yn cael eu hailgyflwyno – ‘rewilding’ yw ei derm am hyn.

Ond “nonsens rhamantus” yw uchelgais Monbiot ar gyfer ucheldrioedd Cymru, yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru (FUW).

“Trwy gyflwyno un rhywogaeth a cheisio troi’r cloc yn ôl 3,000 o flynyddoedd, fe allwch chi ddisodli’r cydbwwysedd bregus ym myd natur,” meddai Nick Fenwick o’r FUW.

Ac eto, yn ôl Cadeirydd y Cyngor Cefn Gwlad mae sylwadau Monbiot yn codi “trafodaeth bwysig”.

Cyfweliad Non Tudur efo George Monbiot yn ei gyfanrwydd yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.