Llifogydd Talybont
Mae gofyn i bobol yn y gogledd a’r gorllewin fod yn wyliadwrus heddiw, gyda pherygl o lifogydd oherwydd glaw trwm.

Mi allai ffyrdd a thir fynd dan ddŵr yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd.

Maen nhw hefyd yn rhybuddio bod perygl o lifogydd mewn ardaloedd lle mae nifer sylweddol o dai ger afonydd – llefydd sy’n cael eu heffeithio’n wael gan law trwm sy’n syrthio’n gyflym, fel ddigwyddodd i’r gogledd o Aberystwyth mewn pentrefi fel Talybont yn ddiweddar.

“Mi fydd y glaw ar ei waethaf o Fanceinion hyd at Cumbria ac ar hyd de-orllewin yr Alban, a gogledd–orllewin Cymru hefyd,” meddai Swyddfa’r Met.

Daw’r tywydd anarferol o wlyb dros yr haf yn sgîl dau aeaf sych.