Rhys Davies
Damwain trasig oedd marwolaeth dyn a ddisgynodd o falconi yn Prague, yn ôl ei rieni mewn cwest i’w farwolaeth heddiw.

Bu farw Rhys Davies, 27, yn wreiddiol o Gwmbran, wedi iddo ddisgyn oddi ar balconi ei fflat ym mhrifddinas y Weriniaeth Siec yn 2010.

Symudodd yno ar ôl graddio mewn drama a’r cyfryngau o Brifysgol Morgannwg.

Er ei fod yn gweithio fel gweithredwr hysbysebu, roedd hefyd yn DJ yn yr Hard Rock Cafe ac yn cael ei adnabod o fewn y sîn gerddorol ym Mhrague fel Rhys “Maximal” Davies.

Clywodd cwest yng Nghasnewydd fod yr heddlu wedi cael eu galw i fflat Rhys Davies ym Mhrague ym mis Medi 2010 ar ôl ffrae gyda’i gariad.

Dywedodd adroddiad byr o swyddfa’r crwner ym Mhrague ei fod wedi marw o anafiadau i’w ben yn dilyn y cwymp.

Clywodd y cwest bod yr heddlu ym Mhrague wedi methu a rhoi manylion am eu hymchwiliad i’w farwolaeth i’r crwner yng Nghymru.

Roedd  dirprwy grwner Gwent, Wendy James, wedi cofnodi rheithfarn agored, gan nodi’r diffyg gwybodaeth oedd ar gael iddi.

Mae rhieni Rhys Davies, wedi talu teyrnged i’w mab gan ei ddisgrifio fel “un o filiwn”.

“Roedd e’n ddyn da,” meddai ei dad Stephen Davies. “Felly yr ydym am ei gofio.”