Mae mudiad sy’n hyrwyddo’r sector awyr agored yng ngogledd Cymru wedi dweud y bydd arian loteri yn eu helpu nhw i ddenu mwy o bobol leol i’r maes.
Mae Cronfa’r Loteri Fawr wedi dyfarnu £420,000 i Bartneriaeth Awyr Agored Gogledd Cymru gyda’r nod o baratoi dros gant o bobol i weithio yn y maes, yn arbennig siaradwyr Cymraeg.
Mae’r diwydiant yn cyfrannu dros £300m i economi gogledd Cymru ac mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi mynegi pryder mai nifer fechan o bobol ifanc leol a Chymraeg eu hiaith sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.
“Mae ymchwil yn dweud fod y sector yn cael ei ddatblygu’n bennaf gan bobl sydd wedi symud i’r ardal,” meddai Tracey Evans, Prif Swyddog Gweithredol y Bartneriaeth Awyr Agored.
“Mae hyn yn cyflwyno risg i’r diwylliant, iaith a threftadaeth leol, gan greu ymdeimlad o estroneiddio ymysg pobl leol.”
Rhybuddia Tracey Evans am “gylch dieflig diwylliannol.”
“Mae lefelau isel o gyfranogiad awyr agored ymysg pobl leol – yn arwain at lefelau cyflogaeth leol isel – yn arwain yn ei dro at lai o ymgysylltu â phobl leol – sy’n golygu lefelau isel o gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.”
Dywed Paul Frost, Cadeirydd y Bartneriaeth Awyr Agored, fod y grant gan Gronfa’r Loteri yn helpu i roi pobl leol “wrth wraidd y diwydiant awyr agored”, ac yn mynd i gefnogi hyfforddiant yn y maes.
Bydd y prosiect yn dechrau ar 1 Awst ac yn targedu 16 ardal Cymunedau’n Gyntaf i gynyddu ymwybyddiaeth o gyflogaeth a gwirfoddoli yn y sector. Bydd tri swyddog amser llawn yn cael eu cyflogi gan y prosiect.