Ysbyty Maelor Wrecsam
Mae bydwraig oedd wedi mynd am baned tra bod mam ar fin geni babi, wedi cael ei diarddel oddi ar y gofrestr feddygol.

Roedd Helen Bannister, bydwraig profiad ac uchel ei pharch ar un adeg yn Ysbyty Maelor, Wrecsam  wedi gadael ei swydd yn 2010 cyn i’w phenaethiaid allu ei diswyddo.

Dros gyfnod o 10 mlynedd roedd hi wedi gwneud sawl camgymeriad difrifol, er gwaetha’r ffaith iddi fynnu ei bod wedi dysgu ei gwers.

Yn ogystal â mynd am baned tra bod darpar-fam ar fin geni babi yn 2000, roedd  Helen Bannister hefyd wedi gadael i ferch feichiog gyda phwysedd gwaed uchel fynd adre.

Clywodd panel y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yng Nghaerdydd fod Helen Bannister hefyd wedi addasu cofnodion meddygol ar dri achlysur.

Cafodd ei gwahardd o’i gwaith yn dilyn ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ond roedd wedi ymddeol yn fuan wedyn.

Dywedodd cadeirydd y panel Matthew Fiander y byddai Helen Bannister yn peri perygl i’r cyhoedd petai hi’n dychwelyd i’w gwaith.

Nid yw Helen Bannister wedi bod yn bresennol yn y gwrandawiad, ac mae ganddi 28 diwrnod i apelio yn erbyn y dyfarniad heddiw.