Mae’n ymddangos bod ’na deimladau cymysg am benderfyniad doctoriaid i weithredu’n ddiwydiannol heddiw am y tro cyntaf ers bron i 40 mlynedd.

Mae polau piniwn yn awgrymu bod bron i hanner y boblogaeth yn gwrthwynebu’r streic tra bod 32% yn ei gefnogi, a 17% yn ansicr.

Mae miloedd o apwyntiadau ysbyty a thriniaethau sydd ddim yn rhai brys wedi cael eu gohirio neu eu hail-drefnu o ganlyniad i’r streic 24 awr gan aelodau o Gymdeithas Feddygol y BMA.

Mae’r doctoriaid yn gweithredu’n ddiwydiannol am eu bod yn anfodlon gyda newidiadau i’w cynlluniau pensiwn.

Ond mae rhai aelodau o’r cyhoedd yn teimlo bod eu cyflogau a’r cynlluniau pensiwn yn ddigon hael yn barod, ac na ddylen nhw fod wedi cynnal streic.