Cyngor Sir Benfro
Mae Arweinydd Cyngor Sir Benfro wedi dweud bod yr awdurdod ar y llwybr cywir er mwyn tawelu pryderon dros amddiffyn plant, ond bod dal gwaith i’w wneud.

Wythnos ddiwethaf anfonodd Llywodraeth Cymru lythyr at arweinydd y cyngor Jamie Adams yn tynnu sylw at fethiannau Cyngor Sir Penfro ar fater amddiffyn plant ac yn gofyn iddo weithredu ar frys.

Yn ôl y Llywodraeth roedd “methiannau allweddol” gan y Cyngor Sir oedd yn cynnwys methu ymyrryd yn ddigonol pan glymodd athro ddwylo plentyn ysgol gynradd, a’r defnydd o ystafelloedd encilio mewn ysgolion er mwyn cloi plant i mewn.

Heddiw dywedodd Jamie Adams, sydd ond wedi bod yn Arweinydd ers mis,  ei fod eisoes wedi gweld newid yn niwylliant yr awdurdod ac yng ngwaith y prif swyddogion.

Yn ei lythyr at weinidogion Llywodraeth Cymru dywedodd Jamie Adams fod y Cyngor Sir wedi cwblhau cynllun gweithredu ac wedi cryfhau gwaith yr adran Adnoddau Dynol. Mae hefyd wedi sefydlu Pwyllgor Craffu gyda’r bwriad o gryfhau gallu’r cynghorwyr i fonitro gwaith swyddogion y cyngor.

Dywedodd Jamie Adams ei fod yn cydnabod pryderon Gweinidogion y Llywodraeth a’i fod yn barod i “arddangos arweinyddiaeth gref” ac i “gymryd penderfyniadau anodd.”

“Nid ydym ni wedi cyrraedd ein nod eto ond rwy’n hyderus ein bod ni ar y llwybr cywir” meddai Jamie Adams.

Ychwanegodd y bydd yr Awdurdod yn “gwneud popeth y gall i gadw plant Sir Benfro yn ddiogel.”