Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad creulon ar ddafad ger Pontardawe.
Roedd ffermwr o Fynydd Baran, Rhyd y Fro, wedi sylwi bod un o’i ddefaid wedi cael ei thrywanu yn ei phen gyda sgriwdreifer mawr a oedd wedi ei adael ym mhenglog yr anifail.
Cafodd y ddafad, a oedd dal yn fyw ac yn magu ŵyn bach, ei thrin gan y fet cyn cael y sgriwdreifer wedi ei dynnu o’i phen.
Mae swyddogion yn credu fod yr ymosodiad wedi digwydd rhwng dydd Sul diwetha’ ac amser cinio ddydd Mawrth.
“Roedd hyn yn ymosodiad ffiaidd ar anifail diniwed a diamddiffyn,” meddai Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Mark Jones.
“Mae’r digwyddiad wedi achosi niwed mawr i’r anifail ac i’r ffermwr ac rydym yn benderfynol o ddal pwy bynnag a oedd yn gyfrifol am ymddygiad mor atgas.”
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Mark Jones ar 07805 301531.