Tra bod miloedd o ddoctoriaid ledled Prydain ar streic heddiw, doedd dim sôn am ddoctor mwyaf adnabyddus Prydain chwaith wrth i fwystfilod greu hafog ar strydoedd Caerdydd bore ma.

Fe aeth dihirod y gyfres deledu Doctor Who ar derfysg drwy’r brifddinas gan ddychryn dinasyddion hen ag ifanc.

Ar ôl “dianc” o set arddangosfa Doctor Who ym Mae Caerdydd, sy’n agor mis nesaf, gwnaeth Dalek, Cyberman, Scarecrow a Silent eu ffordd drwy ganol y ddinas mewn pryd i gyfarch cymudwyr yng Ngorsaf Caerdydd Canolog.

Heol y Frenhines oedd y targed nesaf, cyn iddyn nhw fynd ymlaen i frawychu ymwelwyr Castell Caerdydd ac yna setlo tu allan i’r Cynulliad lle bu’r AC William Powell yn lwcus i’w hosgoi.

Erbyn iddyn nhw gyrraedd Canolfan y Mileniwm, adeilad sydd wedi’i ddefnyddio i ffilmio sawl rhaglen o Doctor Who a Torchwood, roedd torf wedi ymgynnull i dynnu lluniau.

“Un munud ro’n i’n cerdded lawr y stryd a’r peth nesaf dw i’n weld yw Dalek a Cyberman,” meddai Simon Davies, ffan 26 mlwydd oed o Ben-y-bont.

“Mae’n eitha’ doniol i feddwl bod bwystfilod yn cerdded o gwmpas ar yr un diwrnod a aeth y doctoriaid ar streic. Doedd dim son o’r Doctor ei hun chwaith!”

Bydd arddangosfa Doctor Who, neu’r ‘Doctor Who Experience’, yn agor ar 20 Gorffennaf ac mae disgwyl iddo ddenu cannoedd o filoedd o ymwelwyr i Gaerdydd dros y blynyddoedd nesaf.