Rebekah a Charlie Brooks
Bron flwyddyn ar ôl iddi ymddiswyddo o fod yn Brif Weithredwr News International, fe fydd Rebekah Brooks yn ymddangos mewn llys ynadon ar gyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae’r gyn newyddiadurwraig 44 oed yn wynebu tri chyhuddiad yn sgil ymchwiliad yr heddlu i honiadau yn erbyn newyddiadurwyr News International o hacio i gyfrifon ffonau symudol.
Mae’r cyhuddiadau’n ei herbyn hi yn cynnwys honiad ei bod wedi trefnu i symud deunyddiau o swyddfeydd y cwmni wrth i blismyn Scotland Yard gynnal eu hymchwiliad.
Fe fydd gŵr Rebekah Brooks, Charlie Brooks, yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster hefyd – mae ef a rhai o staff y cyn Brif Weithredwr yn wynebu un cyhuddiad yr un o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae disgwyl iddyn nhw bledio’n ddieuog ar ôl i Rebekah a Charlie Brooks brotestio’n ffyrnig pan gawson nhw’u cyhuddo i ddechrau.