Jeremy Hunt
Mae’r glymblaid yn San Steffan yn wynebu un o’i rhwygiadau mwyaf eto wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol wrthod cefnogi’r Gweinidog Diwylliant, Jeremy Hunt.

Yn ôl ffynonellau mewnol, mae’r anghytundeb yn digwydd ar y lefel ucha’, rhwng y Prif Weinidog David Cameron a’i ddirprwy, Nick Clegg.

Y Prif Weinidog ei hun a benderfynodd na ddylai Jeremy Hunt wynebu ymchwiliad gan yr ymgynghorydd seneddol ar fuddiannau gweinidogion ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn anghytuno.

Fe benderfynodd ASau’r blaid ddoe na fydden nhw’n cefnogi’r Gweinidog Diwylliant mewn pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.

Llafur yn pwyso

Mae’r Blaid Lafur wedi gosod cynnig yn galw am ymchwiliad i honiadau fod Jeremy Hunt wedi torri côd y gweinidogion wrth benderfynu ar gais cwmni Rupert Murdoch, News Corporation, i brynu’r cyfan o gwmni teledu BSkyB.

Yn ôl Llafur, roedd Jeremy Hunt wedi camarwain y Senedd ac wedi methu â chymryd cyfrifoldeb am weithredoedd ei gynghorydd personol, Adam Smith, wrth ddelio â’r cwmni.