Mae Tesco wedi cyhoeddi gostyngiad arall mewn gwerthiant yn y DU heddiw.

Dywed y cwmni, sydd â 2,800 o archfarchnadoedd, bod eu gwerthiant wedi gostwng 1.5% yn y 13 wythnos hyd at 26 Mai, ychydig gwell na’r gostyngiad o 1.6% yn y chwarter blaenorol.

Ond mae Tesco’n dweud eu bod wedi llwyddo i ddenu cwsmeriaid o archfarchnadoedd eraill, drwy gyflogi 4,300 o staff ychwanegol ac ailwampio 100 o’i archfarchnadoedd.

Dywed y cwmni hefyd bod dathliadau’r Jiwbilî Ddiemwnt wedi rhoi hwb o £1bn i’w werthiant, ond nid oedd hyn yn cael ei gynnwys yn y ffigurau heddiw.