Mae proffwydi’r tywydd wedi rhybuddio y bydd glaw yn amharu ar ddathliadau Jiwbilî Diemwnt y Frenhines o ddydd Sadwrn i ddydd Mawrth.
Maen nhw’n disgwyl y bydd glaw yn ystod uchafbwynt y dathliadau, sef pasiant afon y Thames yn Llundain ddydd Sul.
Fe fydd dydd Llun, y cyntaf o’r ddwy ŵyl banc, yn sych ar draws Cymru a gweddill Ynysoedd Prydain, ond dydd Mawrth fe fydd rhagor o law yn cyrraedd o’r gorllewin.
Partïon stryd gogledd Lloegr a’r Alban sydd fwyaf tebygo o osgoi’r glaw.
MOMG
Bydd tua dwy fil o drigolion y Deyrnas Unedig yn osgoi’r Jiwbilî yn gyfan gwbwl drwy hedfan dramor, gan gymryd mantais o’r ŵyl banc ddwbl.
Dywedodd cwmni trefnu teithiau Abta bod nifer o dwristiaid yn awyddus i gymryd mantais o gryfder y bunt yn erbyn yr ewro.
Mae cwmni trenau twnnel y sianel, Eurostar, yn dweud eu bod nhw wedi gweld cynnydd o 30% yn nifer y bwciadau dros ŵyl y banc.