Canlyniad anghyfforddus i'r Tywysog Charles
Mae dros hanner cefnogwyr y Blaid Lafur yn credu na ddylai’r Tywysog Charles gael bod yn Frenin ar ôl i’r Frenhines farw.
Roedd 52% o’r rheini bleidleisiodd o blaid Llafur yn yr etholiad cyffredinol yn 2010 yn credu y dylai Dug Caergrawnt, Tywysog William, fod yn Frenin yn ei le.
Ond mae mwyafrif cefnogwyr y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr yn ffafrio Carlo – dim ond 35% a 34% oedd yn credu y dylai gamu o’r neilltu.
Yn ôl y pôl piniwn gan Comres ar ran papur newydd yr Independent, dim ond 42% o bobol Prydain sydd eisiau’r Tywysog Charles yn Frenin arnyn nhw.
Roedd 44% ddim eisiau Charles yn Frenin, a 14% heb farn bendant ar y mater.
Holwyd 1,001 o oedolion rhwng 25 a 28 Mai.