Stadiwm Liberty
Graeme Jones yw’r ffefryn i olynu Brendan Rodgers yn rheolwr newydd Abertawe.

Mae Cadeirydd Wigan, Dave Whelan, wedi cadarnhau ei fod wedi caniatáu i’r rheolwr cynorthwyol gwrdd ag Abertawe er mwyn trafod cymryd swydd rheolwr clwb y Liberty.

Roedd Graeme Jones ymysg y ffefrynnau i gymryd yr awenau yn Abertawe yn 2010, cyn iddyn nhw benodi Brendan Rodgers.

‘‘Mae pawb dan ystyriaeth ar hyn o bryd,’’ meddai Huw Jenkins, cadeirydd clwb Abertawe.

Mae disgwyl y bydd cyn-reolwr Abertawe, Brendan Rodgers, yn cael ei benodi yn rheolwr Lerpwl o fewn y 24 awr nesaf.

Mae Abertawe yn chwilio am ei drydydd rheolwr o fewn pedair blynedd.

‘‘Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddechrau’r broses o ddod o hyd i’n rheolwr nesaf,’’ meddai Huw Jenkins.

Mae rheolwyr yn Sbaen a hefyd yn Yr Iseldiroedd dan ystyriaeth.

Mae Gus Poyet, rheolwr clwb Brighton, Ian Holloway, rheolwr Blackpool, a Chris Hughton, rheolwr Birmingham, hefyd dan ystyriaeth.