Brendan Rodgers
Mae Brendan Rodgers wedi cyfaddef bod y cynnig i reoli clwb mor fawr â Lerpwl yn un rhy dda i’w wrthod.

Fe fydd cyn-reolwr Abertawe yn dechrau ei swydd yn reolwr newydd Lerpwl fore dydd Gwener ar ôl cytuno ar becyn iawndal ag Abertawe.

“Dim ond er mwyn cael mynd i glwb mawr oeddwn i am adael Abertawe, ac rydw i’n golygu clwb mawr,” meddai wrth y South Wales Evening Post.

“Roedd yn benderfyniad ofnadwy o anodd. Roeddwn i wedi bwriadu aros gydag Abertawe am sawl blwyddyn.

“Roeddwn i wedi dweud o’r dechrau na fyddwn i’n aros gydag Abertawe am byth, ac fe fyddwn i’n gorfod gadael ryw ddydd.

“Ond doeddwn i ddim wedi disgwyl i’r cyfle gyrraedd nawr.

“Rydw i wedi bod yn hapus iawn yn Abertawe. Ond pan mae cyfle yn cyrraedd i weithio â chlwb sy’n fwy na chlwb, mae’n her sy’n rhy dda i’w wrthod.

“Mae Lerpwl yn un o glybiau mwyaf y gêm. Maen nhw ar yr un lefel â AC Milan, Inter Milan, Barcelona, Real Madrid a Bayern Munich.”

Dywedodd ei fod wedi gwrthod siarad â Lerpwl i ddechrau, nes iddi ddod i’r amlwg mai ef oedd eu dewis cyntaf nhw.

“Roeddwn i wedi eu gwrthod nhw allan o barch at Abertawe. Ond unwaith y daeth i’r amlwg mai fi oedd y dewis cyntaf roedd rhaid ailfeddwl,” meddai.

“Ychydig iawn o hyfforddwyr o Brydain sy’n cael y cyfle i reoli’r clybiau mwyaf. Dim ond unwaith y mae cyfle fel yna’n dod ac mae’n rhaid gwneud penderfyniad.”