Rheolwr Lerpwl Brendan Rodgers
Mae adroddiadau y prynhawn yma fod Abertawe wedi dod i gytundeb gyda Lerpwl dros iawndal am Brendan Rodgers, a bod rhai o staff Rodgers ar y Liberty yn gadael gyda’r rheolwr fel rhan o’r ddêl.
Roedd gan Brendan Rodgers dair blynedd yn weddill ar ei gytundeb ac roedd disgwyl y bydd Abertawe yn derbyn tua £5m o iawndal am fod y cytundeb yn dod i ben yn gynnar. Mae adroddiadau heddiw fod cyn-chwaraewr Abertawe a Chymru a dirprwy Brendan Rodgers, Colin Pascoe, am fynd gydag ef i Lerpwl, ynghyd â dau swyddog hyfforddi arall.
Gylfi Sigurdsson - a ddaw e i Abertawe?
Mae pryder hefyd y bydd Rodgers yn denu Gylfi Sigurdsson gydag ef i Anfield. Roedd disgwyl i’r chwaraewr 22 oed o Ynys yr Iâ gyrraedd y Liberty heddiw neu yfory er mwyn cael prawf meddygol a chadarnhau ei drosglwyddiad gwerth £6.8m o glwb Hoffenheim, ond mae ymadawiad y rheolwr wedi rhoi marc cwestiwn dros y trosglwyddiad.
Pwy fydd rheolwr newydd Abertawe?
Ymhlith yr enwau sy’n cael eu cysylltu gyda’r swydd mae rheolwr Brighton Gus Poyet, Ian Holloway o Blackpool, Chris Hughton sydd gyda Birmingham ac un o enwau mawr pêl-droed Denmarc, Michael Laudrup.
Gus Poyet yw ffefryn y bwcîs gan fod Abertawe wedi bod mewn trafodaethau gydag e yn 2010 cyn apwyntio Brendan Rodgers. Y penwythnos diwethaf mynegodd Poyet, a fu’n chwarae dros Chelsea a Spurs, ei ddyhead i reoli yn yr uwchgynghrair.