Mae’r Barbariaid wedi cyhoeddi’r tîm a fydd yn cwrdd â Chymru brynhawn Sadwrn, ac mae Shane Williams ar yr asgell chwith.

Dyma fydd gêm olaf un y dewin bach ar y lefel broffesiynol, a bydd dau Gymro arall yn chwarae yn erbyn Cymru gydag ef – y prop Duncan Jones a’r mewnwr Richie Rees.

Yn gapten ar y Barbariaid mae’r dyn a arweiniodd De Affrica i fuddugoliaeth yng Nghwpan y Byd 2007 – y bachwr John Smit.

Tri arall sydd wedi codi Cwpan y Byd ac sy’n chwarae yng nghrys y Barbariaid ddydd Sadwrn yw Mils Muliaina a Stephen Donald o Seland Newydd, a’r canolwr o Loegr sydd bellach yn aelod o’r teulu brenhinol, Mike Tindall.

Mae canolwr y Gleision Casey Laulala wedi ei ddewis hefyd ac yn chwarae ei gêm olaf yng Nghaerdydd cyn iddo symud i Munster yn Iwerddon.

Tim y Barbariaid yn erbyn Cymru, y gêm am 2 brynhawn Sadwrn:

15 Mils MULIAINA
14 Isa NACEWA
13 Casey LAULALA
12 Mike TINDALL
11 Shane WILLIAMS
10 Stephen DONALD
9 Richie REES
1 Duncan JONES
2 Benoit AUGUST
3 John SMIT (capten)
4 Mick O’DRISCOLL
5 Mark CHISHOLM
6 Francois LOUW
7 Mamuka GORGODZE
8 John BEATTIE
16 Aled de MALMANCHE
17 Neemia TIALATA
18 Anton van ZYL
19 Akupusi QERA
20 Rory LAWSON
21 Sailosi TAGICAKIBAU
22 Cedric HEYMANS