Brendan Rodgers
Fydd hyfforddwr Abertawe, Alan Curtis, ddim yn dilyn y rheolwr Brendan Rodgers i Lerpwl.

Fe gadarnhaodd cyn seren y clwb y bydd yn aros gyda’r Elyrch ond fe ddywedodd y byddai colli Rodgers yn ergyd anferth i Abertawe.

Mae disgwyl y bydd symudiad Rodgers i Anfield yn cael ei gadarnhau heddiw – yn ôl Cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, dim ond cytuno ar ffi ariannol sydd raid.

Mewn datganiad i gefnogwyr, fe ddywedodd eu bod yn diolch i Brendan Rodgers am ei wasanaeth ond y byddai’r clwb yn awr yn “ail-ganolbwyntio” ar ddod o hyd i rywun i barhau gyda’i waith.

Rhai eisiau di Matteo

Roberto di Matteo, rheolwr tros dro Chelsea, yw un o’r ffefrynnau ymhlith cefnogwyr sydd wedi bod yn anfon negeseuon cefnogaeth, gan ddweud eu bod yn “ymddiried yn Huw” i ddod o hyd i reolwr da arall.

Ian Holloway, rheolwr Blackpool, a Gus Poyet, rheolwr Brighton, yw dau o’r enwau eraill sy’n cael eu crybwyll – ond mae rhai cefnogwyr hefyd yn sôn am ddenu cyn reolwr yr Elyrch, Roberto Martinez, o Wigan.

Cymysg yw’r ymateb ymhlith cefnogwyr Abertawe – llawer yn diolch i Rodgers ond eraill yn chwerw ac yn ei gyhuddo o ddiffyg teyrngarwch.