Brendan Rodgers
Mae disgwyl y bydd cadarnhad mai Brendan Rodgers yw rheolwr newydd Lerpwl o fewn y 48 awr nesaf.
Mae’r dyn 39 oed o Ogledd Iwerddon wedi arwyddo cytundeb tair blynedd â’r clwb yng ngogledd Lloegr.
Mae’n debyg bod clybiau Abertawe a Lerpwl yn trafod iawndal am y rheolwr.
Y gred yw y bydd Abertawe yn derbyn rhwng £4 miliwn a £5 miliwn o daliad iawndal.
Mae Brendan Rodgers yn cynnal trafodaethau â pherchnogion Lerpwl y prynhawn ma.
Mae wedi disodli Roberto Martinez yn ffefryn i gymryd yr awenau yn sgil ymadawiad Kenny Dalglish o’r clwb.
Mae Sky Bet bellach wedi cyhoeddi nad ydyn nhw’n cymryd unrhyw fetiau newydd ar hyfforddwr nesaf Lerpwl yn sgil y sïon am Rodgers.
Roedd Brendan Rodgers wedi gwrthod cynnig Lerpwl 10 dydd ynghynt, ond mae’n ymddangos nawr fod ganddo ddiddordeb yn y swydd.
Arwyddodd Rodgers gytundeb newydd o dair blynedd a hanner gyda’r Elyrch yn y gwanwyn.
Dywedodd Phil Sumbler, cadeirydd ymddiriedolaeth y cefnogwyr, ei fod wedi derbyn sawl neges gan gefnogwyr pryderus.
‘‘Mae Brendan Rodgers wedi bod yn wych yma. Dydw i ddim yn credu bod yna un cefnogwr eisiau iddo adael Stadiwm y Liberty,’’ meddai Phil Sumbler.
Dyn arall sydd eisiau i Rodgers aros yw caplan y clwb, Kevin Johns.
‘‘Mae’n ddyn hyfryd ac wedi bod yn rheolwr arbennig i Abertawe sydd wedi cael y gorau allan o’i chwaraewyr. Ac nid yn unig arwain ni i’r Uwch Gynghrair, ond yn cadw ni yno,’’ dywedodd.