Eddie Shah
Mae’r dyn a helpodd danseilio undebau llafur yn yr 1980au wedi cael ei gyhuddo o droseddau rhyw difrifol yn erbyn merch ifanc.

Fe fydd Eddie Shah, cyn gyhoeddwr y papur newydd, Today, yn ymddangos o flaen llys ynadon Westminster yr wythnos nesa’.

Mae ef, a gŵr a gwraig o Gaint, wedi cael eu cyhuddo ynglŷn â throseddau honedig rhwng 1993 ac 1995 pan oedd y ferch rhwng 12 a 15 oed.

Treisio ac anwedduster

Mae Shah, sydd bellach yn ddyn busnes yn Wiltshire, yn cael ei gyhuddo o saith achos o dreisio a dau o anwedduster dybryd.

Mae wedi dweud wrth ei bapur lleol yn Swindon ei fod “wedi ei syfrdanu” a’i fod yn bwriadu ymladd yr achos.

Mae’r papur hefyd yn adrodd bod canolfan hamdden a maes golff Eddie Shah ar werth.

Pan oedd yn cyhoeddi Today, fe heriodd Eddie Shah yr undebau pwerus yn y maes argraffu a chael cefnogaeth y Prif Weinidog ar y pryd, Margaret Thatcher.